Welsh Homepage
 
Welsh Homepage
Gyda rhaglen sydd wedi cynnwys popeth o Eddie Izzard i’r Supremes a Barbara Dickson i Rob Brydon, mae Pafiliwn y Grand yn anelu’n uchel o ran cyflwyno’r theatr a cherddoriaeth fyw orau oll i’r dref fach hon ar lan y môr.
Wrth ochr ei raglen proffesiynol mae ystod eang o weithgareddau cyfranogol yn cynnwys y Dawnsfeydd Te chwedlonol a rhaglen boblogaidd iawn o ddosbarthiadau celf. Hefyd mae’n gartref i un o gwmnïau celfyddydau ieuenctid blaengar y wlad, sef Theatr Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr ac wrth gwrs, mae’n cyflwyno golygfa ysblennydd syfrdanol bob blwyddyn gyda’i bantomeim Nadolig blynyddol. Pan nad ydyn ni’n brysur yn difyrru trwy ein rhaglen ein hunain, rydyn ni’n falch o groesawu nifer fawr o gorau, grwpiau drama ac ysgolion lleol.
Hefyd rydyn ni’n cynnig dewis hyblyg ac unigryw o leoliad ar gyfer cynadleddau, priodasau a lliaws mawr o ddigwyddiadau preifat. Ac ar y cyd â hyn oll mae caffi-bar gyda golygfeydd panoramig tua’r de ar draws Môr Hafren sy’n cynnal ei gyfres ei hunan o ddigwyddiadau am ddim yn cynnwys Suliau Jazz a Chlasuron Amser Cinio.
Sut i ddod o hyd inni, ble i barcio, hygyrchedd a gwybodaeth ddefnyddiol arall ynghylch eich ymweliad.
Os ydych chi'n chwilio am y lleoliad perffaith ar gyfer eich priodas neu os oes arnoch chi angen trefnu digwyddiad...
Fee-Fi-Fo-Fum, panto anferth yn llawn hwyl! Archebwch eich tocynnau ar gyfer perfformiad eleni o Jack and the Beanstalk.
Bwytewch mewn steil yn ein caffi bar ar ddull y 1930au mewn partneriaeth â Just Perfect Catering.
Bydd Jason Donovan yn ymddangos yn fyw ym Mhafiliwn y Grand, Porthcawl ar ddydd Sadwrn 17 Mawrth am 7.30pm gyda’i sioe hunangofiannol ‘Jason and his Amazing Midlife Crisis.
Macca: Y Cyngerdd – dathlwch gerddoriaeth Paul McCartney a chaneuon mwyaf llwyddiannus y Beatles yn fyw ym Mhafiliwn y Grand, Porthcawl ar ddydd Gwener 16 Chwefror am 7.30yh.
Mae’r drysau wedi cau ar Bafiliwn y Grand yn nhymor pantomeim mwyaf llwyddiannus Porthcawl erioed. Fe wnaeth Cinderella chwalu holl recordiau blaenorol y swyddfa docynnau yn ystod ei rhediad pedair wythnos, er llawenydd mawr y lleoliad a chynhyrchwyr Imagine Theatre.