Nôl I Awen
aaa
Nôl i Newyddion

Pasha Kovalev Hyrwyddiad Sain Ffolant Chwefror:

Mae'r dawnsiwr proffesiynol ac enillydd Strictly Come Dancing Pasha Kovalev yn cyhoeddi mis arbennig ar gyfer Chwefror gyda hyrwyddiad Sain Ffolant!

Mae’r enillydd Strictly Come Dancing 2014, Pasha Kovalev, ar daith unwaith eto gyda’i sioe newydd sbon ‘Let’s Dance The Night Away’ a bydd e’n ymddangos yn fyw ym Mhafiliwn y Grand, Porthcawl ar ddydd Iau 20 April at 7.30yh.

Fe wnaeth Pasha gyrraedd y DU yn 2011 fel un o’r dawnswyr proffesiynol yn Strictly Come Dancing.  Ei bartner enwog cyntaf oedd Chelsee Healey a daethon nhw’n ffefrynnau’r genedl pan oedden nhw yn yr ail safle i gael y teitl chwenychedig.

Yn 2012 fe wnaeth e ddawnsio gyda seren Girls Aloud Kimberley Walsh ac unwaith eto roedd e yn yr ail safle.  Yn 2013 fe wnaeth Pasha ddawnsio gyda’r cyflwynydd Countdown Rachel Riley cyn ennill y tlws o’r diwedd yn 2014 gyda’r cyflwynydd teledu Caroline Flack.

Wedi llwyddiant anferth ei deithiau ‘Life Through Dance’ ac ‘It’s All About You’ dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, bydd ei ddawnswyr ysblennydd yn ymuno â Pasha eto gan gynnwys gwestai arbennig Anja Garnis mewn noson o ganu byw, dawns, sgwrsio a hwyl.

Mae’r cynhyrchiad newydd sbon hwn yn cynnwys coreografi syfrdanol, cerddoriaeth benigamp, a gwisgoedd trawiadol a fydd yn gadael y gynulleidfa’n llawn egni ac emosiwn positif.

Hyrwyddiad Sain Ffolant Chwefror: Mae’r dawnsiwr proffesiynol ac enillydd Strictly Come Dancing Pasha Kovalev yn cyhoeddi hyrwyddiad arbennig Sain Ffolant ar gyfer Chwefror!

Bydd pob tocyn a brynir ar gyfer ei sioe ‘Let’s Dance the Night Away’ yn ystod mis Chwefror yn cael ei gynnwys mewn raffl fawr a bydd yr enillydd yn derbyn potel o siampaen am ddim gan Pasha ym Mhafiliwn y Grand Pavilion ar 20 Ebrill wedi’re perfformiad.   Rhaid i gystadleuwyr fod dros 18 oed.