Nôl i Newyddion

The Original Hitman – Music Mogul Pete Waterman OBE Live In Conversation

Disgwylir i Waterman ddatgelu straeon nas clywyd erioed o’r blaen y tu ôl i rai o ganeuon ac artistiaid mwyaf yr 80au a’r 90au yn fyw ym Mhafiliwn y Grand, Porthcawl ar ddydd Gwener 21 Medi am 7.30pm.

Yn dilyn ymlaen o’i gyngerdd eithriadol o lwyddiannus ‘A Life in Song’, yn y Royal Festival Hall, bydd un o bwysigion cerddoriaeth mwyaf cynhyrchiol ei genhedlaeth, cyfansoddwr gwreiddiol y caneuon poblogaidd a oedd yn gyfrifol am fwy na 100 o ganeuon poblogaidd 40 Uchaf y DU a 40 miliwn o recordiadau, Pete Waterman OBE, yn cymryd canol y llwyfan ac yn siarad am ei yrfa ddiddorol, ei gariad am gerddoriaeth, straeon y tu ôl i rai o’r artistiaid a chaneuon mwyaf yn y byd mae e wedi bod yn gysylltiedig â nhw, ei gariad am reilffyrdd a’i gysylltiadiad â’r rheilffordd Brydeinig fawr.

Byddwch chi’n clywed hanesion am ei yrfa, gyrfaoedd y bu’n ymwneud â nhw megis Kylie Minogue, Donna Summer, Jason Donovan, Bananarama, Steps a llawer, llawer mwy.

 

Tocynnau£24.50 / £23.50 ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01656 815995 neu archebwch ar-lein yn www.grandpavilion.co.uk.

 

Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, elusen gofrestredig – Gwella Bywydau Pobl.