Cwestiynau Cyffredin – y Coronafeirws (COVID-19)
Cwestiynau Cyffredin – y Coronafeirws (COVID-19)
Nac ydy. Nid yw’r adeilad ar agor i’r cyhoedd ar hyn o bryd.
Mae cownter y swyddfa docynnau ar gau ar hyn o bryd, ond gallwch ffonio’r swyddfa docynnau rhwng 10am a 2.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ar 01656 815995 neu gallwch e-bostio box.office@awen-wales.com
Cewch, ond rydym yn eich annog i brynu tocynnau ar-lein yn www.grandpavilion.co.uk
Oes,ac rydym yn ysu am gael eich croesawu unwaith eto. Mae cownter ein swyddfa docynnau ar gau ond gallwch brynu tocynnau ar-lein drwy fynd i www.grandpavilion.co.uk a dewis ‘beth sy ‘mlaen’.
Gall grwpiau o hyd at 8 unigolyn gadw tocynnau ar-lein. Gall grwpiau o 9+ o bobl e-bostio box.office@awen-wales.com . Sylwer ei bod hi’n bosib y bydd peth oedi cyn y gallwn ymateb o ganlyniad i lefelau is o staff.
Ffoniwch y swyddfa docynnau rhwng 10am a 2.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener ar 01656 815995 neu e-bostiwch box.office@awen-wales.com a bydd modd i ni eich helpu.
E-bostiwch eich ymholiad i box.office@awen-wales.com a byddwn yn cysylltu â chi.
Rydym yn dilyn canllawiau’r llywodraeth yn y cyfnod digynsail hwn. Os caiff perfformiad ei ganslo, byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost. Os nad yw eich cyfeiriad e-bost gennym, byddwn yn eich ffonio. Rydym ni hefyd yn postio’r manylion ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ac ar ein gwefan.
Byddwn yn eich annog i ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 01656 815995 neu ei e-bostio box.office@awen-wales.com i roi eich manylion cyswllt cywir i ni.
Gall ad-daliad gymryd hyd at 15 niwrnod i brosesu a’i roi’n ôl ar eich cerdyn. Os gwnaethoch chi ymateb i’r e-bost a anfonwyd atoch gan ofyn am ad-daliad, caiff hyn ei brosesu’n awtomatig. Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost i chi, byddwn yn ceisio ffonio i brosesu ad-daliad â llaw. Os nad oes neb wedi cysylltu â chi, ffoniwch y swyddfa docynnau rhwng 10am a 2.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener ar 01656 815995 neu e-bostiwch box.office@awen-wales.com a byddwn yn cysylltu â chi.
Gellir ychwanegu taleb credyd i’ch cyfrif a gallwch defnyddio hyn ar gyfer unrhyw ddigwyddiad ym Mhafiliwn y Grand. Gellir defnyddio talebau credyd wrth gadw tocynnau dros y ffôn neu’n bersonol pan fydd cownter y swyddfa docynnau’n ailagor – gadewch i staff y swyddfa docynnau wybod eich bod chi am ddefnyddio eich taleb credyd.
Rydym yn deall nad oes modd i gwsmeriaid defnyddio eu talebau ar hyn o bryd ond gofynnwn i chi fod yn amyneddgar.
Rydym am sicrhau y gall cwsmeriaid ag aelodaeth cyfaill yn gallu mwynhau holl fuddion y cynllun a byddwn yn estyn yr aelodaeth ac yn rhoi 6 mis ychwanegol.
Gallwch hefyd ein cefnogi drwy fod yn gyfaill neu drwy wneud rhodd. Hefyd, gallwch ein cefnogi drwy siarad amdanom i’ch teulu a’ch ffrindiau, ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol a hoffi/rhannu ein postiadau, cofrestru ar gyfer ein rhestr bostio neu fod yn wirfoddolwr. Gwerthfawrogir yr holl gymorth yn fawr iawn.
Rydym yn gweld eich eisiau chi hefyd! Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n mynd ar ein gwefan ac yn ein dilyn ni ar ein holl sianeli cyfryngau cymdeithasol hefyd.
Gwefan: www.grandpavilion.co.uk
Facebook: Grand.Pavilion.Porthcawl
Twitter: @GrandPavilion
Instagram: #porthcawlpavilion
Byddwn yn ceisio eich diweddaru chi cymaint â phosib drwy gydol y cyfnod hwn. Cadwch lygad ar ein gwefan a’n sianelu cyfryngau cymdeithasol. Byddwn hefyd yn anfon e-byst felly cofrestrwch ar gyfer yr e-Newyddion.
Y ffordd gyflymaf o wneud rhodd yw mynd i wefan Pafiliwn y Grand yn www.grandpavilion.co.uk. Ar frig y dudalen, cliciwch ar y botwm ‘glas’. Bydd hyn yn mynd â chi i’r dudalen roddion. Yna, dilynwch y cyfarwyddiadau ar-lein.
Rydym yn gwerthfawrogi eich rhodd, boed yn fawr neu’n fach. Diolch!
Ewch i wefan Pafiliwn y Grand yn www.grandpavilion.co.uk Cliciwch ar y botwm ‘Cyfeillion’ o’r tab ar frig tudalen yr hafan. Gallwch ddewis ymuno fel aelod unigol neu fel pâr a bydd hyn yn mynd â chi i’r dudalen gofrestru a gallwch ddilyn y cyfarwyddiadau arni.
Rydym yn edrych ymlaen at agor y drysau i chi a chodi’r llenni unwaith eto ond yn y cyfamser, arhoswch yn ddiogel.
Pafiliwn y Grand