Midge Ure

18th Ebr
Cerddoriaeth | POB DIGWYDDIADAU

Mae Midge Ure yn dychwelyd i gylchdaith theatrau'r DU yn gynnar yn 2019 â sioe newydd ... wel, bron!

25 mlynedd yn ôl, cyflwynodd Midge sioe theatr ag elfen Cwestiynau ac Atebion iddi, a'r cynllun ar gyfer 2019 yw dychwelyd i fersiwn diweddaraf o'r cysyniad. "Caneuon a Straeon" os hoffech chi. Y tro hwn bydd yn chwarae gyda'i aml-offerynwyr Cole Stacey a Joe O'Keefe (sydd hefyd yn agor y sioe yn chwarae eu deunydd gwreiddiol eu hunain fel India Electric Company).

Mae digon i siarad amdano hefyd tra'n cwmpasu gyrfa broffesiynol o 40 mlynedd, Ultravox, gwaith Unigol, Band Aid, ei CD Orchestrated o 2017, ac unrhyw beth y gallwch CHI y gynulleidfa feddwl amdano i ofyn iddo!

Bydd Midge yn perfformio caneuon o gatalog Ultravox ochr yn ochr â'i waith unigol a bydd cyfle i gael awgrymiadau gan y dorf i ddewis cân iddyn nhw berfformio hefyd, felly bydd y sioe yn ddetholiad o ddeunydd a fydd yn bodloni'r cefnogwyr a phlesio'r rhai sy'n chwilfrydig, ac nid yn aml fyddwch chi'n cael cyfle i awgrymu'r rhestr chwarae!

Pafiliwn Y Grand

Tocynnau: £21.50 - £22.50

Statws Tocynnau: Ar Gael

Yn ôl Archebwch Nawr