Lleolir Pafiliwn y Grand ar lan y môr ym Mhorthcawl. Mae gan bob llwybr tuag aton ni arwyddion amwynder hamdden brown a gwyn, sy’n golygu ei fod yn hawdd dod o hyd inni. Tirnodau eraill sy’n nesaf at Bafiliwn y Grand yw’r archfarchnad mini One Stop a Gwesty’r Seabank.
Wedi’i leoli ar y promenâd gyda ‘mannau gollwng’ hawdd a dau faes parcio ‘talu ac arddangos’ gerllaw. Mae gan Bafiliwn y Grand faes parcio bach iawn gyda mannau parcio ar gyfer pobl anabl a mae’r rhain ar sylfaen gyntaf i’r felin gaiff falu.
Llywio â Lloeren: CF36 3YW
Pam lai aros dros nos wrth ymweld â Phafiliwn y Grand? Gall y Swyddfa Docynnau ddarparu manylion ynghylch gwestai a thai llety lleol sy’n addas ar gyfer pob chwaeth a chyllideb.
Mae cyfleusterau ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn yn cynnwys mynedfa â ramp a mynediad gwastad i’r awditoriwm, swyddfa docynnau, caffi bar a thoiled hygyrch. Sicrhewch eich bod yn hysbysu’r Swyddfa Docynnau o’ch anghenion wrth archebu – byddwn ni’n hapus i’ch cynorthwyo.
Mae celf a diwylliant ar gyfer pawb. Ond os oes gennych amhariad neu ofyniad mynediad penodol, dydy cael gweld ddim yn hawdd bob tro. Yn aml, gall ymweld â theatr neu ganolfan y celfyddydau fod yn fwy cymhleth nag archebu tocynnau a dewis beth i’w wisgo yn unig. Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau ledled Cymru i wneud pethau’n glir a chyson.
Mae Pafiliwn y Grand yn rhan o’r cynllun Hynt gan ein bod yn credu ei fod yn cynnig yr arfer gorau oll i’n cwsmeriaid anabl o ran polisi tocynnu teg a hygyrchedd. Mae gan ddeiliaid cerdyn Hynt hawl i gael tocyn am ddim ar gyfer cynorthwy-ydd neu ofalwr personol ym Mhafiliwn y Grand a’r holl theatrau a chanolfannau’r celfyddydau sy’n cymryd rhan yn y cynllun.
Ewch i www.hynt.co.uk i weld ystod o wybodaeth a chyfarwyddyd ynghylch y cynllun, i gael gwybod a ydych chi neu’r person rydych chi’n gofalu amdano/amdani’n gymwys i ymuno â’r cynllun neu i gwblhau ffurflen gais. Fel arall, cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 01656 815995 er mwyn siarad ag aelod o staff am Hynt ym Mhafiliwn y Grand.