Bydd LINDISFARNE, y band roc-gwerin chwedlonol ac arloesol o'r 70au, yn dychwelyd â phum cerddor sy'n aelodau o'r band ers tro dan arweiniad yr aelod sefydlu gwreiddiol Rod Clements ar leisiau, mandolin, ffidil a gitâr sleidiau.
 repertoire o ganeuon bythgofiadwy megis Meet Me On The Corner, Fog On The Tyne, Lady Eleanor a Run For Home ac enw da am berfformiadau byw heb eu hail, mae grym LINDISFARNE i wefreiddio cynulleidfaoedd gwyliau a chyngherdau yn parhau i fod yn amlwg ac yn sicr o gael y dorf ar ei draed ac yn cydganu.
LINDISFARNE 2018/19 yw:
ROD CLEMENTS (1969-presennol) Llais, mandolin, ffidil, gitarau DAVE HULL-DENHOLM (1994-presennol) Llais, gitarau STEVE DAGGETT (1986-presennol) Llais, allweddellau, gitarau IAN THOMSON (1995-presennol) Bas, llais PAUL THOMPSON (Roxy Music gynt) Drymiau
Erbyn hyn mae Charlie Harcourt (1985 – 2018) Gitâr a llais, wedi ymddeol o berfformiadau byw