Erbyn hyn, derbynnir mai ABBA MANIA yw'r cynhyrchiad ABBA teithiol mwyaf yn y byd.
Mae'n cynnwys cyflwyniad cyngerdd arbennig, ac yn dathlu cerddoriaeth ABBA mewn modd parchus a difyr, gan atgyfodi atgofion arbennig o gyfnod euraid ABBA.
Mae ABBA MANIA yn cynnig noson i'w chofio i gefnogwyr ABBA, hen a newydd. Os ydych yn chwilio am esgus i gael parti, hel atgofion neu gael eich diddanu gan y gerddoriaeth orau erioed, mae ABBA MANIA yn sioe ddelfrydol i chi!
Ymunwch a mwynhewch bob un o'ch ffefrynnau gan gynnwys: ‘Mamma Mia’, ‘Voulez Vous’, ‘Dancing Queen’, ‘Winner Takes It All’, ‘Super Trouper’ a llawer mwy.
Felly chwiliwch am eich hen esgidiau platfform, glanhewch y fflers yna a diolchwch i ABBA am y gerddoriaeth.