Lipstick On Your Collar 2021

14th Aws
Cerddoriaeth | POB DIGWYDDIADAU

Fel y'i gwelir yn West End Llundain mae Lipstick On Your Collar yn ôl!

Camwch yn ôl mewn amser i oes aur cerddoriaeth pan oedd y jiwcbocs yn rhuo a doedd traed ddim yn cyffwrdd â'r llawr. Paratowch eich esgidiau dawnsio, gafaelwch mewn ysgytlaeth ac ymlaciwch - fe gewch chi noson o ganeuon gwych o'r 1950au a'r 60au!

O enedigaeth Roc a Rôl hyd at seiniau Grwpiau Roc cyfnod 'Goresgyniad Prydain' ac wedi hynny, mae'r sioe yn llawn dop ac yn cynnig mwy na 40 o ganeuon gwych gan bobl fel Connie Francis, Brenda Lee, Buddy Holly, Chuck Berry, The Beatles, The Ronettes, Cliff Richard, Cilla Black a llawer mwy.

Mae'r sioe anhygoel hon yn cael ei pherfformio gan fand byw llawn, ac mae'n cynnwys rhai o gerddorion gorau'r wlad, a cheir canu ardderchog, harmonïau tynn ac ymdeimlad heintus o hwyl.

Mae dawnsio yn yr eiliau yn gwbl orfodol felly dewch â'ch esgidiau dawnsio a gadewch i'r amserau da ddechrau!

Pafiliwn Y Grand

Tocynnau: £22.50

Statws Tocynnau: Ar Gael

Yn ôl Archebwch Nawr